Drugs Warrant
|
||
|
|
||
|
||
|
Gwarant Cyffuriau |
||
|
Mae dau o bobl wedi cael eu cyhuddo yn dilyn gwarantau cyffuriau a gynhaliwyd yr wythnos hon yng Nghastell-nedd Port Talbot. Gweithredwyd gwarantau yn ardaloedd Tairgwaith a Gwaun Cae Gurwen nos Sul 11 Hydref. Mae Dafydd Griffiths, 28 oed, o Frynaman Isaf, wedi cael ei gyhuddo o feddu ar gocên gyda'r bwriad o gyflenwi, bod yn rhan o gyflenwi cocên a chanabis a meddu ar eiddo troseddol. Mae Vickylee Davies, 42 oed, o Dairgwaith, wedi cael ei chyhuddo o fod yn rhan o gyflenwi cocên a chanabis. Bydd y ddau yn ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ar Dachwedd 13. Mae dau unigolyn arall wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymholiadau’n parhau. Dywedodd y Cwnstabl Ben Brookfield: “Ar ôl nifer o adroddiadau gan drigolion lleol am weithgarwch parhaus yn gysylltiedig â chyffuriau yn yr ardal, gweithredodd swyddogion gyfres o warantau ar draws Gwauncaegurwen a Thairgwaith, gan arwain at atafaelu cyffuriau rheoledig a chyhuddo dau berson o droseddau sy’n gysylltiedig â chyffuriau a’u cadw yn y ddalfa. “Rydym yn parhau i ymchwilio i faterion parhaus yn yr ardal ac yn annog trigolion i roi gwybod am unrhyw wybodaeth am weithgarwch troseddol i ni drwy 101. “Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.”
| ||
Reply to this message | ||
|
|







